Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus ym mis Medi 2016. Pan gyflwynodd Carl Sargeant y Bil fis Hydref diwethaf, eglurodd fod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn diogelu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, diogel o ansawdd da yng Nghymru. Yn Symud Cymru Ymlaen, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi ymrwymo i gyflenwi o leiaf 12,500 o'r cartrefi hynny ac, er mwyn gwneud hyn, bydd angen iddynt gael benthyg tua £1 biliwn o'r sector preifat i ychwanegu at gyllid Llywodraeth Cymru.
Yn ymarferol, mae'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus yn dod â benthyciadau preifat landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r cyfrifon cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai gynyddu'r gwariant ar dai cymdeithasol o ryw £1 biliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a fyddai'n effeithio'n ddifrifol ar ein hymrwymiadau gwario presennol, neu dderbyn y byddai 5,000 yn llai o gartrefi yn y rhaglen, gan na fyddai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gallu benthyg er mwyn buddsoddi.