Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch i chi am ildio. Yn ogystal â'r broses craffu ar y Bil, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad hir i gymdeithasau tai yng Nghymru. Ar y pwynt hwn, gwelsom, yn gyfnewid am y rhyddid ychwanegol yr oeddynt yn ei gael drwy'r mesur hwn, fod cyfrifoldeb ar gymdeithasau tai eu hunain i fynd ati'n rhagweithiol i annog craffu gan eu tenantiaid. Felly, a all hi ein sicrhau ni, wrth i'r canllawiau statudol gael eu datblygu, bod y cyfrifoldeb hwnnw yn cael ei roi ar gymdeithasau tai er mwyn codi'r safon?