Cyfraith Gynllunio

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:30, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried deddfau cynllunio, ond oni fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod yn rhaid i symlrwydd fod yn elfen allweddol o ymagwedd y Llywodraeth tuag at unrhyw newidiadau i ddeddfau sy'n rheoli cynllunio, yn enwedig o gofio bod deddfau cynllunio yng Nghymru mor gymhleth ar hyn o bryd, a'i bod yn anodd eu dehongli weithiau, a bod y gwahaniaeth cynyddol rhwng deddfau cynllunio Cymru a Lloegr, efallai, yn gwaethygu'r sefyllfa?

Gall deddfwriaeth newydd a wneir yn y Cynulliad ac yn Senedd y DU fod yn berthnasol i Gymru yn unig, i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr, ac mae hynny’n creu system gynllunio gymhleth iawn. A allwch roi sicrwydd inni, Weinidog y Cabinet, y byddwch chi’n yn ystyried y pryderon hyn pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth?