Cyfraith Gynllunio

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:31, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, credaf fod gwir angen symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio Cymru, ac yn sicr, o ran y papur cwmpasu a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith ym mis Gorffennaf 2016—credaf fod oddeutu 94 y cant o'r ymatebwyr wedi dweud yn glir fod angen ei symleiddio, felly yn sicr, ni fuaswn yn dadlau yn erbyn hynny.

Credaf, hefyd, ers i mi fod yn gyfrifol am y portffolio hwn, fod nifer fawr o randdeiliaid wedi dweud wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn ymdopi gyda’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n gymhleth iawn. Felly, credaf fod yn rhaid i’r gwaith o symleiddio fod ar ben y rhestr.