Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Chwefror 2018.
Prynhawn da, Weinidog. Ar hyn o bryd, bydd caniatâd cynllunio fel arfer yn dod i ben oni bai bod gwaith datblygu yn dechrau o fewn tair blynedd. Gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad cwblhau sy'n nodi y bydd y caniatâd cynllunio yn dod i ben os bydd cyfnod penodedig arall yn dod i ben, ond nid oes ganddynt bŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygiad gael ei gwblhau. Dyna'r senario. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i symleiddio'r broses ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cwblhau drwy roi pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru nodi dyddiad ar gyfer cwblhau datblygiad? Diolch.