Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ie. Y bore yma, cyfarfûm â chynrychiolwyr cymdeithas bysgota Cymru, ac ni fyddwch yn synnu wrth glywed bod parhau i fod yn ddi-dariff yn hynod bwysig iddynt. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ddoe ei fod wedi clywed, pan oedd yn Iwerddon ddydd Llun, am bum lori o bysgod na allent fynd allan o'r wlad, ac yn sicr, mae'r cynrychiolwyr y cyfarfûm â hwy y bore yma hyd yn oed yn fwy pryderus bellach y gallai’r sefyllfa honno godi hyd yn oed yn amlach yn y dyfodol ar ôl Brexit oni bai bod Llywodraeth y DU yn gwneud pethau'n gwbl gywir o'r cychwyn cyntaf. Felly, byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hyn gyda fy swyddogion cyfatebol, yn sicr gyda Llywodraeth y DU, a gwn, mewn perthynas â masnach a masnach ddi-dariff, y bydd Prif Weinidog Cymru, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn parhau â’r trafodaethau.