Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch am hynny. Rwy'n edrych ymlaen at y cynllun yn cael ei lansio, wrth gwrs, ond rwy'n edrych ymlaen yn fwy fyth i weld, ymhen dwy flynedd, y bydd gyda ni bobl ifanc nawr yn gyfrifol am ddaliadau tir am y tro cyntaf, ac yn dangos y ffordd i ni ar gyfer amaeth ar gyfer y dyfodol. Rwy'n hyderus iawn bod y syniadau gan ffermwyr ifanc Cymru i wneud hynny.
Ond, fe wnaf i gloi ar agwedd arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn wahanol yng Nghymru i'r hyn yw e dros y ffin yn Lloegr, neu dros y môr yn Iwerddon, achos rwy'n sôn am bysgodfeydd. Cyhoeddwyd adroddiad ar bysgodfeydd yng Nghymru ddoe gan Public Policy Institute Cymru. Mae hynny yn dangos, wrth gwrs, beth sy'n fwy pwysig i'r math o bysgotwyr sydd gyda ni yng Nghymru, sy'n dueddol o fod yn llai o faint, ac sy'n dueddol o bysgota am gregyn yn hytrach na physgod fel y cyfryw—eu bod nhw am gael mynediad i'r marchnadoedd Ewropeaidd yna, yn agored a di-dariff, yn hytrach nag efallai y berchnogaeth dros y moroedd sydd yn dueddol o fod wedi llywio'r drafodaeth ynglŷn ag, er enghraifft, CAF a'r polisïau Ewropeaidd.
Pan wnes i ymweld ag Aberdaugleddau, ges i fy nharo gan gymaint o brosesu a oedd yn digwydd yng Ngwlad Belg, ond roedd y bwyd môr yn cael ei hel a'i gasglu ym Mae Ceredigion, ac mae llawer yn cael ei gludo yn ôl ac ymlaen mewn loris drwy Gymru. Felly, beth fedrwch chi ei wneud fel Llywodraeth nawr i sicrhau bod mwy o brosesu'n digwydd yma yng Nghymru, a hefyd i sicrhau, serch hynny, ein bod ni'n dal i fod yn gallu gwerthu bwyd wedi'i brosesu, gyda gwerth ychwanegol, yn uniongyrchol i mewn i farchnadoedd sydd yn dal i fod yn bwysig i ni?