Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Chwefror 2018.
Wel, rwy'n ddiolchgar am hynny. Wrth gwrs, mae'r mater o weithwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd yn fater o bryder, ond mae hefyd yn wir i ddweud y dylem ni ddefnyddio pob arf sydd gyda ni i helpu pobl ifanc yng Nghymru, er enghraifft, i lwyddo mewn amaeth. Rydych chi'n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni wedi dod i gytundeb am £6 miliwn ar gyfer cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc, ac mae'r diddordeb yn y cynllun yma wedi bod yn syfrdanol a dweud y gwir, ac mae nifer y ffermwyr ifanc sydd wedi mynegi eu bod nhw'n awyddus iawn i fentro yn y maes yn galondid, achos dydw i ddim yn rhannu eu hysbrydoliaeth bob tro, o wynebu beth sydd gan Brexit. Ond rwy'n gweld bod pobl ifanc am fentro i mewn i amaeth ac rwyf eisiau i'r Llywodraeth gefnogi hynny gymaint ag sydd yn bosib. Rydych chi wedi dweud yn gyhoeddus eisoes eich bod chi'n gobeithio y bydd y cynllun ar amser ac yn mynd i gael ei gyhoeddi yn fuan iawn. A fedrwch chi ddiweddaru'r Cynulliad cyfan ynglŷn â beth rydych chi'n gobeithio ei gael allan o'r cynllun yma erbyn hyn, ac ym mha ffordd rydych chi'n gobeithio y bydd y cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc yn cefnogi ac yn paratoi y gweithlu cyfan ar gyfer heriadau Brexit?