Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch am eich cwestiwn, Simon. Fe fyddwch yn gwybod am ein cyfarfodydd pedairochrog. Nid ydym wedi cyfarfod ers cyn y Nadolig, ond byddwn yn cyfarfod wythnos i ddydd Llun, mewn gwirionedd, yma yng Nghaerdydd, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a hefyd, yn amlwg, fy swyddogion cyfatebol o’r Alban, ac yn ôl pob tebyg, yr Ysgrifennydd Parhaol o Ogledd Iwerddon. Mae’n amlwg fod gweithlu’n fater pwysig i'r sector amaethyddol, ac yn sicr, o ran y tair fferm ddiwethaf yr ymwelais â hwy dros y mis diwethaf, roedd gan bob un ohonynt nifer sylweddol o wladolion yr UE yn gweithio ar y fferm. Felly, gallwn weld pam y byddai’n broblem enfawr pe bai llai o allu gan ein ffermwyr, a'r sector amaethyddol, i gael gwladolion yr UE yn rhan o’r gweithlu.