Datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:55, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Gwn, hefyd, fod yr Aelod wedi bod yn uchel ei gloch mewn perthynas â'r mater hwn ac wedi gofyn nifer o gwestiynau o'r blaen ar ran trigolion ac etholwyr.

O ran yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, cyfeiria hyn at broses benodol i gydymffurfio â'r gyfarwyddeb AEA, felly pan fo'r AEA yn cael ei gymryd fel rhan o'r cais cynllunio, ac yn gweithredu fel ymgynghorai—[Anghlywadwy.]—mae'r pwynt amgylcheddol yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n rhywbeth a fydd yn amlwg yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd hefyd.