Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 14 Chwefror 2018.
Credaf ei bod yn deg dweud, ers imi gael fy ethol i'r sefydliad hwn, o safbwynt Bro Morgannwg, mai llosgydd y Barri, heb os, yw'r ymgyrch fwyaf wedi bod, ac ar draws y pleidiau gwleidyddol, hoffwn ychwanegu. Cymeradwyaf y gymuned o amgylch y llosgydd, a'r gymuned ehangach ym Mro Morgannwg, am y camau a gymerwyd ganddynt i ymladd yr ymgyrch hon. Ond mae yna broblem yn codi ynglŷn ag asesiadau o’r effaith amgylcheddol a'u haddasrwydd. A ydych wedi cael amser, ers ichi ddod yn Weinidog, i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd lle mae angen asesiadau o effaith amgylcheddol? A ydych yn credu bod y model y mae cyrff cyhoeddus yn enwedig, cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei ddilyn ar hyn o bryd yn addas at y diben, gan gofio sylw comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth gwrs? Ond yn y pen draw, chi fel Llywodraeth a fydd yn pennu'r paramedrau ar gyfer y canllawiau i gyrff os ydynt yn rhoi asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar waith.