Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:34, 14 Chwefror 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ffigurau diweddaraf am y gweithlu amaethyddol gan yr ONS, sydd wedi'u cyhoeddi y mis yma, yn dangos bod 53,500 o weithwyr yn y sector yng Nghymru, a, gyda llai na 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol, mae yna 11.5 y cant o'r holl weithwyr amaethyddol yma yng Nghymru. Felly, mae'n deg i ddweud, rwy'n meddwl, wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, dyma enghraifft arall o sut y mae'r sector amaeth yn mynd i fod yn agored i newid yn sylweddol iawn, a dwywaith yn fwy tebyg, yn fras iawn, oherwydd y nifer yn y gweithlu sydd gyda ni. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, ein diweddaru ni ynglŷn â beth yw sefyllfa y trafodion bellach gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, a'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ynglŷn â sefydlu fframwaith ar gyfer amaeth wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau bod llais Cymru, a hawliau y gweithlu Cymreig, yn rhan o'r fframwaith hwnnw?