Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i'r adroddiad a ddywedai fod cyrff cadwraeth yn anwybyddu'r ffeithiau o ran effaith moch daear ar niferoedd draenogod. Ni allaf lai na meddwl tybed a oedd hwnnw'n ddatganiad gwleidyddol gyda'r nod o gyfiawnhau difa moch daear. Nid oedd Undeb Amaethwyr Cymru yn teimlo y dylai arferion ffermio gael y rhan fwyaf o'r bai am y gostyngiad yn niferoedd draenogod, er y toreth o waith ymchwil sy’n dangos mai amaethyddiaeth a rheoli tir sy’n cael yr effaith unigol fwyaf ar fywyd gwyllt, gydag 84 y cant o dir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi ystyried ac asesu goblygiadau'r datganiad hwn gan Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n beio moch daear am y dirywiad, a hefyd i edrych ar y broses o roi'r newidiadau ar waith, fel y mae'r sefydliadau cadwraeth, sy'n sôn yn glir am blaladdwyr, yn ei ddymuno?