Draenogod

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:57, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn cytuno â honiadau Undeb Amaethwyr Cymru. Yn sicr, pan fyddwch yn darllen yr adroddiad, ni chredaf mai dyna sy'n sefyll allan. Pan fyddwch yn darllen yr adroddiad, mae'n nodi nifer o resymau pam fod draenogod yn fwy prin mewn ardaloedd gwledig, ac mae hynny'n cynnwys dwysáu amaethyddiaeth, colli cynefin, darnio, cael eu lladd ar y ffyrdd, yn ogystal ag ysglyfaethu. Mae draenogod yn ysglyfaeth naturiol i foch daear, ac maent yn osgoi safleoedd lle y ceir niferoedd uchel iawn o foch daear. A chredaf hefyd fod yr adroddiad yn datgan y gallant gydfodoli—hynny yw, gall moch daear a draenogod gydfodoli mewn llawer o ardaloedd. Felly, credaf fod angen inni ddeall y cynefin yn well.