Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ie, mae'n rhywbeth y mae arnom angen ateb parhaol yn ei gylch. Gobeithiaf y daw'r un dros dro yn un parhaol yn fuan iawn—o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, gobeithio. Dywedoch mai fi, fwy na thebyg, oedd y—credaf mai fi yw'r chweched Gweinidog â chyfrifoldeb, ac addewais i Dai Davies, cyn i'w gyfnod fel cadeirydd ddod i ben, y byddem yn datrys y mater. Fe lwyddasom ar sail dros dro, ond rydych yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth sydd wedi bod o gwmpas ers gormod o amser ac mae angen ei ddatrys. Felly, byddaf yn parhau i gael trafodaethau ynglŷn â hyn gyda Gweinidogion eraill a gwn fod fy swyddogion yn parhau i gael cyfarfodydd ar lefel swyddogol hefyd.