Y Sector Bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:04, 14 Chwefror 2018

Gwelais adroddiadau yn ddiweddar fod y cyrff lefi cig coch ym Mhrydain yn mynd i fod yn rhannu cronfa o £2 miliwn ar gyfer marchnata ac ymchwil tra bod datrysiad mwy hirdymor, efallai, i'r saga yma o'r lefi cig coch yn cael ei ddatrys o'r diwedd, gobeithio. Rwyf am wybod achos rwyf wedi bod yn codi hyn ers blynyddoedd mawr. Rwy'n siŵr mai chi yw'r pumed neu'r chweched Gweinidog neu Ysgrifennydd Cabinet sydd wedi bod yn ymrafael â'r anghyfiawnder yma o'r £1 miliwn sy'n cael ei golli i'r sector cig coch bob blwyddyn oherwydd y ffordd y mae'r lefi yn cael ei redeg. Pryd ydych chi'n meddwl, os mai mesur dros dro yw hwn, y byddwn ni'n cael datrysiad unwaith ac am byth i'r anghyfiawnder yma? A phryd, o'r diwedd, y gwelwn ni'r sector cig coch yng Nghymru yn derbyn yr arian sy'n ddyledus iddi?