Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Chwefror 2018.
Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i ymuno â chi yn y digwyddiad, ac roedd yn braf clywed gennych wedyn. Un o'r pethau a greodd argraff arnaf yn y digwyddiad y soniasom amdano oedd y berchnogaeth emosiynol ar eich mannau gwyrdd lleol, ond wedyn sut y daw hynny'n berchnogaeth wirioneddol. Ac rydych yn llygad eich lle fod mynediad i fannau gwyrdd yn arwain at fanteision iechyd, economaidd a chymdeithasol ehangach; nid rhywbeth da i'r amgylchedd yn unig yw hyn. Felly, mae trosglwyddo asedau cymunedol yn darparu cyfleoedd i'r gymuned berchnogi a rheoli mannau gwyrdd. Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth a'r offer i grwpiau cymunedol allu cymryd perchnogaeth ar y mannau hyn, ac mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y gronfa cyfalaf seilwaith gwyrdd sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn cynorthwyo a chefnogi grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd.