1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd? OAQ51743
Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at y gwaith o leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £27.8 miliwn o gyllid cyfalaf o 2017 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu seilwaith gwyrdd dros gyfnod o bedair blynedd.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi gallu siarad yn y digwyddiad ar fannau cymunedol a gynhaliwyd gennyf yr wythnos o'r blaen. Clywsom yn y digwyddiad sut y gall mynediad i fannau gwyrdd cymunedol helpu i wella iechyd, lles a ffyniant, er bod rhai o'r rhwystrau i berchnogaeth gymunedol wedi eu nodi hefyd. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'w gwneud yn haws i gymunedau, nid yn unig i gael mynediad i fannau gwyrdd, ond i gymryd perchnogaeth gyfreithiol arnynt?
Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i ymuno â chi yn y digwyddiad, ac roedd yn braf clywed gennych wedyn. Un o'r pethau a greodd argraff arnaf yn y digwyddiad y soniasom amdano oedd y berchnogaeth emosiynol ar eich mannau gwyrdd lleol, ond wedyn sut y daw hynny'n berchnogaeth wirioneddol. Ac rydych yn llygad eich lle fod mynediad i fannau gwyrdd yn arwain at fanteision iechyd, economaidd a chymdeithasol ehangach; nid rhywbeth da i'r amgylchedd yn unig yw hyn. Felly, mae trosglwyddo asedau cymunedol yn darparu cyfleoedd i'r gymuned berchnogi a rheoli mannau gwyrdd. Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth a'r offer i grwpiau cymunedol allu cymryd perchnogaeth ar y mannau hyn, ac mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y gronfa cyfalaf seilwaith gwyrdd sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn cynorthwyo a chefnogi grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd.
Weinidog, mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn argymell mwy o barthau 20 mya o amgylch mannau gwyrdd fel y gall plant gerdded, beicio a chwarae'n ddiogel, yn ogystal â gallu cyrraedd y mannau hynny’n fwy diogel. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg mynediad i fannau gwyrdd ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae arnom angen cynllun gweithredu i sicrhau bod gan blant fynediad i feysydd chwarae diogel.
Yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn a dilys iawn. Nid yw mannau gwyrdd yn ymwneud â diogelwch yn unig; mae mannau gwyrdd yn cynorthwyo i leihau llygredd aer a llygredd sŵn hefyd. Credaf ein bod yn bwrw ymlaen â'n strategaeth ansawdd aer ar hyn o bryd, felly efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem fynd ar ei drywydd a'i ystyried yn y dyfodol.