Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r gwaith o reoli pysgodfeydd wrth inni edrych at y dyfodol. Ond ni fydd yn cael ei ariannu wedi 2020. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, i sicrhau cyllid hanfodol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac i ymgorffori ymchwil gwely'r môr mewn cynllun cenedlaethol strategol?