1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
8. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i ymchwilio i welyau môr oddi ar arfordir Cymru? OAQ51737
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith i ddeall moroedd Cymru, gan gynnwys gwely'r môr. Rwyf wedi gweld â'm llygaid fy hun y gwaith academaidd rhagorol ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor yn arbennig. Rydym yn parhau i ddatblygu dealltwriaeth dda o'n moroedd i alluogi datblygu cynaliadwy.
Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r gwaith o reoli pysgodfeydd wrth inni edrych at y dyfodol. Ond ni fydd yn cael ei ariannu wedi 2020. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, i sicrhau cyllid hanfodol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac i ymgorffori ymchwil gwely'r môr mewn cynllun cenedlaethol strategol?
Rwy'n ymwybodol fod Prifysgol Bangor yn awyddus i nodi gwaith gwyddonol strategol ar gyfer y Prince Madog yn y dyfodol. Mae'n fater masnachol ar gyfer y prifysgolion a sefydliadau eraill yn y consortiwm, felly ni allaf roi unrhyw sylw pellach.
Fel hyrwyddwr y morlo llwyd, mae'r holl siarad ar greigiau Rhosili am adroddiadau cyflwr safle dangosol diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar ardaloedd morol gwarchodedig. Mae'n debyg eu bod wedi tynnu sylw at ddiffyg hyder wrth bennu statws nodweddion gwarchodedig fel riffiau islanwol, gydag adroddiadau fod rhai mewn statws cadwraethol anffafriol. Felly, yn sgil hynny, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gyllideb ychwanegol a ddyrannwyd i'r adran forol a physgodfeydd yn cael ei defnyddio i ariannu gwaith adfer a monitro mawr ei angen ar ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, a chadw fy morloi llwyd yn hapus? Diolch.
Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod morloi llwyd Dai Lloyd yn hapus. Ni allaf gadarnhau y bydd yr holl arian yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, ond rwy'n siŵr y bydd rhywfaint o'r arian yn mynd tuag at ddeall ein moroedd, ac wrth gwrs, yr ardaloedd morol gwarchodedig, sy'n bwysig iawn.
Gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y penderfyniad i ailagor y bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion wedi'i wneud i raddau helaeth ar sail y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar gyflwr gwely'r môr, a dywedasoch bryd hynny, rwy'n credu, y byddech yn awyddus i gynnal gwaith monitro parhaus mewn perthynas â chyflwr gwely'r môr er mwyn sicrhau na fyddai'r broses o ailagor y bysgodfa’n cael effaith andwyol a'i bod, fel y dywedasoch yn awr, yn ddatblygu cynaliadwy o ran ein moroedd a gwely’r môr. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y sefyllfa bellach mewn perthynas â’r bysgodfa honno, ac yn sgil y cwestiwn cynharach a ofynnais ynglŷn â physgod cregyn yn gyffredinol ym moroedd Cymru, beth yw ein sefyllfa bellach o ran sicrhau y gall y bysgodfa honno fod yn gynaliadwy ac y gall ddiwallu anghenion yr amgylchedd naturiol hefyd?
Soniais mewn ateb cynharach, nid i chi, fy mod wedi cyfarfod â chymdeithas bysgodfeydd Cymru y bore yma ynghylch monitro, ac ar y sail na allwch blesio pawb drwy'r amser, gallwch ddychmygu bod eu barn hwy’n wahanol. Mae'r gwaith monitro yn parhau i fynd rhagddo, ond os yw'r Aelod yn fodlon, fe ysgrifennaf ato gyda'r sefyllfa benodol ar hyn o bryd.