Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Chwefror 2018.
Credaf ei fod yn ddefnyddiol iawn. Nid wyf wedi rhoi unrhyw gyhoeddusrwydd i hyn, felly rwyf innau hefyd yn falch iawn fod Joyce Watson wedi gofyn y cwestiwn hwn heddiw.
Credaf hefyd y bydd adroddiadau fel hwn yn gymorth, ar ôl Brexit, pan fyddwn yn edrych ar ein rhaglenni ac ar sut y byddwn yn hybu bioamrywiaeth, er enghraifft. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r adroddiad hwn.