Draenogod

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:59, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Fel yr hyrwyddwr ar ran draenogod, rwy’n croesawu—[Torri ar draws.] Mae diddordeb Aelodau eraill yn ein cyfeillion pigog yn galonogol iawn. [Chwerthin.]

Roeddwn yn bryderus wrth ddarllen, yn yr adroddiad gan yr Hedgehog Preservation Society, am ddirywiad draenogod mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yng nghyswllt y defnydd o blaladdwyr. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod defnyddio data mawr a deallusrwydd artiffisial yn rhoi cyfle inni fod o gymorth yn y maes hwn? Drwy ddefnyddio'r technegau diweddaraf mewn amaethyddiaeth fanwl, gallwn raddnodi'n benodol faint o gemegion sy'n angenrheidiol wrth drin tir a chyfyngu ar gemegion a roddir yn y pridd, a bydd hynny'n arwain at effaith ganlyniadol fuddiol i ddraenogod. O gofio bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid cyflwyno strategaeth gan y Llywodraeth ar amaethyddiaeth fanwl, a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y cynnydd, os gwelwch yn dda?