Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Chwefror 2018.
Fel hyrwyddwr y morlo llwyd, mae'r holl siarad ar greigiau Rhosili am adroddiadau cyflwr safle dangosol diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar ardaloedd morol gwarchodedig. Mae'n debyg eu bod wedi tynnu sylw at ddiffyg hyder wrth bennu statws nodweddion gwarchodedig fel riffiau islanwol, gydag adroddiadau fod rhai mewn statws cadwraethol anffafriol. Felly, yn sgil hynny, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gyllideb ychwanegol a ddyrannwyd i'r adran forol a physgodfeydd yn cael ei defnyddio i ariannu gwaith adfer a monitro mawr ei angen ar ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, a chadw fy morloi llwyd yn hapus? Diolch.