Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n deall pryderon y trigolion a'r Aelod, ac yn cydnabod y rhan y mae’r Aelod wedi ei chwarae’n gwneud sylwadau ar y mater hwn ar ran ei hetholwyr.
O ran y cyhoeddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae ein canllawiau yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn glir fod y Ddeddf yn cynnig cyfleoedd i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gellir cyflawni dyletswyddau mewn ffordd fwy integredig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn hyderus fod eu dyletswyddau statudol perthnasol yn cael eu cyflawni yn erbyn y meini prawf yn y ddeddfwriaeth berthnasol.