Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Chwefror 2018.
Gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y penderfyniad i ailagor y bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion wedi'i wneud i raddau helaeth ar sail y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar gyflwr gwely'r môr, a dywedasoch bryd hynny, rwy'n credu, y byddech yn awyddus i gynnal gwaith monitro parhaus mewn perthynas â chyflwr gwely'r môr er mwyn sicrhau na fyddai'r broses o ailagor y bysgodfa’n cael effaith andwyol a'i bod, fel y dywedasoch yn awr, yn ddatblygu cynaliadwy o ran ein moroedd a gwely’r môr. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y sefyllfa bellach mewn perthynas â’r bysgodfa honno, ac yn sgil y cwestiwn cynharach a ofynnais ynglŷn â physgod cregyn yn gyffredinol ym moroedd Cymru, beth yw ein sefyllfa bellach o ran sicrhau y gall y bysgodfa honno fod yn gynaliadwy ac y gall ddiwallu anghenion yr amgylchedd naturiol hefyd?