Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch. Ddydd Llun, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft cwbl ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd wedi'i alinio â nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau er eraill ar y ddogfen a'r cyfraniad y gall ei wneud i'r broses o greu lleoedd.