1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Cynllunio Cymru? OAQ51767
Diolch. Ddydd Llun, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft cwbl ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd wedi'i alinio â nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau er eraill ar y ddogfen a'r cyfraniad y gall ei wneud i'r broses o greu lleoedd.
Ac rwy’n croesawu’r adolygiad hwnnw ochr yn ochr â'r cwestiwn a ofynnodd David Rowlands ar y cychwyn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i gynllunio datblygu strategol, a ddarperir yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, i gynorthwyo i symud datblygiadau o'r ardaloedd gor-grynodedig o amgylch Caerdydd a'r M4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, gefnogi'r safbwynt fod angen i 'Polisi Cynllunio Cymru' adlewyrchu addasrwydd cynlluniau datblygu strategol yn hytrach na chynlluniau datblygu lleol, a bod angen i gynrychiolwyr etholedig awdurdodau lleol yn yr ardaloedd sydd wedi’u cynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol weithio gyda'i gilydd a dangos eu cefnogaeth i ddatblygu cynaliadwy mwy gwasgaredig sy'n cyd-fynd â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol?
Diolch. Gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sgyrsiau rhyngom fy mod yn awyddus iawn i weld cynlluniau datblygu strategol. Ysgrifennais at bob awdurdod lleol ym mis Rhagfyr, yn eu gwahodd i ystyried sut y gallent weithio gyda'i gilydd ar gynlluniau datblygu strategol. Rwyf wedi cael rhai ymatebion, ac ynghylch cynlluniau datblygu ar y cyd hefyd, er nad yw pawb wedi ysgrifennu'n ôl eto. Rwyf hefyd wedi eu hatgoffa o'r angen i gynyddu'r cyflenwad tai, gan bwysleisio bod yn rhaid i dai newydd gyfrannu at y gwaith o greu cymunedau cydlynus. Nid ydym yn dymuno gweld effeithiau annerbyniol ar seilwaith cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.
Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ymddiheuro i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am fethu fy nghwestiwn cynharach?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel hyrwyddwr yr ystlum pedol mwyaf, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd yr ymgynghoriad hwn ar y polisi cynllunio newydd i Gymru yn rhoi digon o bwyslais ar amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl heb atal unrhyw gynllunio angenrheidiol neu waith adnewyddu hen adeiladau? Ond mae angen inni edrych ar ôl ein ffrindiau llai o faint; nid oes ganddynt lais—mae angen inni fod yn llais iddynt.
Yn sicr, rwy'n cytuno â hynny, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei hymddiheuriad; mewn gwirionedd, cwestiwn i Weinidog yr amgylchedd ydoedd.
Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei ffurf drafft yn nodi bod y cysyniad o ddatblygu cynaliadwy wedi ei ehangu, wrth gwrs, o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'i bod hi'n ofynnol i wella'r pedair agwedd ar lesiant—economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Ac, yn ogystal, mae'r Ddeddf wedi dod â saith nod llesiant ymlaen i helpu sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un weledigaeth o Gymru gynaliadwy. Mae'r iaith Gymraeg yn un o'r saith nod llesiant o dan y Ddeddf, a hefyd yn rhan o'r agwedd ddiwylliannol o lesiant. Pam felly nad ydy polisi cynllunio drafft y Llywodraeth yn cryfhau cyfrifoldebau awdurdodau cynllunio lleol wrth iddyn nhw ystyried y Gymraeg fel rhan o'u penderfyniadau cynllunio?
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi edrych ar y nodyn cyngor technegol a oedd yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg ac wedi ei gryfhau, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw sylwadau sydd ganddi yn ei gylch—os teimlwch na chafodd ei atgyfnerthu mewn ffordd briodol yn eich tyb chi—wrth inni gynnal yr ymgynghoriad hwn ar bolisi cynllunio.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.