Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at y gwaith o leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £27.8 miliwn o gyllid cyfalaf o 2017 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu seilwaith gwyrdd dros gyfnod o bedair blynedd.