Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch. Gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sgyrsiau rhyngom fy mod yn awyddus iawn i weld cynlluniau datblygu strategol. Ysgrifennais at bob awdurdod lleol ym mis Rhagfyr, yn eu gwahodd i ystyried sut y gallent weithio gyda'i gilydd ar gynlluniau datblygu strategol. Rwyf wedi cael rhai ymatebion, ac ynghylch cynlluniau datblygu ar y cyd hefyd, er nad yw pawb wedi ysgrifennu'n ôl eto. Rwyf hefyd wedi eu hatgoffa o'r angen i gynyddu'r cyflenwad tai, gan bwysleisio bod yn rhaid i dai newydd gyfrannu at y gwaith o greu cymunedau cydlynus. Nid ydym yn dymuno gweld effeithiau annerbyniol ar seilwaith cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.