Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ymddiheuro i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am fethu fy nghwestiwn cynharach?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel hyrwyddwr yr ystlum pedol mwyaf, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd yr ymgynghoriad hwn ar y polisi cynllunio newydd i Gymru yn rhoi digon o bwyslais ar amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl heb atal unrhyw gynllunio angenrheidiol neu waith adnewyddu hen adeiladau? Ond mae angen inni edrych ar ôl ein ffrindiau llai o faint; nid oes ganddynt lais—mae angen inni fod yn llais iddynt.