Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Chwefror 2018.
Iawn, credaf fy mod wedi ateb eich cwestiwn, fwy neu lai, yn fy ateb i Joyce Watson. Credaf fod yr adroddiad yn dweud yn glir iawn pam fod draenogiaid yn fwy prin mewn ardaloedd gwledig, ac nid yw’n ganlyniad i un rheswm penodol yn unig. Rhoddais nifer o resymau ynglŷn â cholli cynefin, dwysáu amaethyddiaeth, er enghraifft, a hefyd lladd ar y ffyrdd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn i bawb edrych ar yr adroddiad hwn yn ei gyfanrwydd, ac yn sicr, rwy'n anghytuno â'r hyn y mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi'i honni yma.