Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ffeithiau yn yr adroddiad yn glir iawn, sef mai pethau fel colli cynefin a ffermio dwys yw prif achos y gostyngiad. Gyda llaw, fy rhywogaeth i yw hebog Tonyrefail—mater arall yw hynny.
A gaf fi ddweud—? Un o'r pethau sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yn natganiad Undeb Amaethwyr Cymru, yw'r ffaith bod ymgais, bron, i droi draenogod yn arfau fel y gellir eu beio am eu colledion o ganlyniad i foch daear; felly, defnyddio un rhywogaeth fel mecanwaith er mwyn ceisio ymosod ar rywogaeth arall, ac ati, ac mae'n rhaid i’n safbwynt arwain at ddifa moch daear, ac at amddiffyn draenogod eu hunain. Nid yw ymagwedd rannu a rheoli o'r math hwn yn dderbyniol.