Perthynas Cymru gyda'r UE yn y Dyfodol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:21, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Un peth a wyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd ôl troed gweithgarwch diplomyddol ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn newid o'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ac maent yn darparu mwy o adnoddau i’w gweithgaredd. Yn amlwg, mae'n hanfodol fod yr ôl troed newydd hwnnw yn cydnabod y cyd-destun datganoledig y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu ynddo, a hoffwn ddeall pa ryngweithio a wnaeth ei adran gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i sicrhau bod rôl gynrychioliadol Cymru o fewn yr ôl troed newydd yn cael ei chydnabod yn ddiplomyddol ac mor gryf â phosibl?