Perthynas Cymru gyda'r UE yn y Dyfodol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cael ei chynrychioli o bryd i'w gilydd ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar y negodiadau Ewropeaidd, ac fel arfer caiff ei chynrychioli ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop. Mae hynny'n rhoi cyfle inni drafod y ffordd y bydd cynrychiolaeth ddiplomyddol yn cael ei threfnu ar ôl Brexit yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU. Rydym yn manteisio ar bob cyfle a gawn i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny’n ymwybodol o’r angen i bresenoldeb y DU fod yn wirioneddol gynrychioladol o'r Deyrnas Unedig gyfan, ac yn cynnig cymorth rheolaidd i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau, wrth iddi siarad ar ran y Deyrnas Unedig, ei bod yn ymwybodol o fuddiannau Cymru a'r cyfleoedd a fydd ar gael i Gymru ar ôl Brexit.