Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Llywydd. Yn ôl 'Datganiad polisi caffael Cymru', mae caffael cyhoeddus, pan caiff ei ddefnyddio'n effeithiol,
'yn arf strategol i ddarparu budd economaidd i bobl Cymru.'
Nid oes syndod, felly, bod y Llywodraeth, fel rŷch chi'n nodi yn eich strategaeth economaidd 'Ffyniant i Bawb' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ymdrechu i gynyddu lefel pryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus er mwyn creu swyddi a helpu busnesau yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r canran o bryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus yr ŷch chi yn uniongyrchol yn gyfrifol amdano yn mynd lan neu lawr?