2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Chwefror 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yn ôl 'Datganiad polisi caffael Cymru', mae caffael cyhoeddus, pan caiff ei ddefnyddio'n effeithiol,
'yn arf strategol i ddarparu budd economaidd i bobl Cymru.'
Nid oes syndod, felly, bod y Llywodraeth, fel rŷch chi'n nodi yn eich strategaeth economaidd 'Ffyniant i Bawb' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ymdrechu i gynyddu lefel pryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus er mwyn creu swyddi a helpu busnesau yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r canran o bryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus yr ŷch chi yn uniongyrchol yn gyfrifol amdano yn mynd lan neu lawr?
Wel, ar y cyfan, mae'n mynd lan, Llywydd.
Wel, fe allaf i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n mynd lawr. Yn 2015-16, yn y flwyddyn ariannol honno, roedd 41 y cant o bryniant y gwasanaeth iechyd yn cael ei wneud yng Nghymru, yn ôl eich ystadegau chi, ond, erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd y canran yma wedi disgyn i 39 y cant. Mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eich bod yn ceisio arwain trwy esiampl. Ond, ers 2015-16, mae canran y pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru eu hunain wedi disgyn o 44 y cant i 41 y cant yn y flwyddyn honno—yn y flwyddyn fwyaf cyfredol. Felly, a ydy Llywodraeth Cymru yn gallu gosod targed penodol ar gyfer lefel pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd, a'i wneud e, er enghraifft, yn gydradd â llywodraeth leol, sy'n llwyddo i gyrraedd lefel o 59 y cant o wariant yn aros yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud hynny, mi fyddai hynny yn arwain, yn syth bin, at £400 miliwn ychwanegol o wariant yn cael ei wneud trwy fusnesau yng Nghymru.
Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod, Lywydd: nid oes unrhyw wahaniaeth o gwbl rhyngom o ran ein huchelgais i weld canran y gwariant ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru sy'n mynd i gwmnïau Cymreig yn tyfu ac yn tyfu ar draws y gwahanol gyfleoedd sydd yno. Rydym yn adolygu dyfodol y polisi caffael yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni Brexit, i weld a fydd mwy o gyfleoedd i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r grŵp o bobl sy'n gyfrifol am hynny, a'r grŵp rhanddeiliaid sy'n eu cynorthwyo, i edrych a fyddai targedau yn gymorth yn y broses honno. Mae ganddynt ran i'w chwarae, o bosibl, ond gwyddom eu bod yn gallu ystumio pethau hefyd. Felly, buaswn eisiau gwneud yn siŵr fod y syniad wedi cael ei ystyried yn drwyadl. Pe baent yn dod i'r casgliad ei bod yn ffordd ddefnyddiol o wella'r sefyllfa, yna dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud, felly buaswn, wrth gwrs, yn ystyried y cyngor hwnnw'n ddifrifol iawn.
Wel, buaswn i'n awgrymu y byddai'n fuddiol o leiaf i gael targed, a bod y lefel yn mynd lan; nid mynd i lawr fel y mae ar hyn o bryd.
Gadewch i ni droi at gwestiwn arall yr oedd Siân Gwenllian wedi cyfeirio ato fe, sef y lefel o fuddsoddiad rhanbarthol. Yn 'Ffyniant i Bawb', mae'r Llywodraeth yn amlinellu eich dyhead i sicrhau bod pob rhan o Gymru'n elwa o fuddsoddiad a thwf economaidd, ond mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gennych chi yn dangos bod gwariant y pen, o ran cyfalaf ac isadeiledd, er enghraifft, y flwyddyn nesaf yn ne-ddwyrain Cymru yn mynd i fod yn ddwywaith yn fwy na gogledd Cymru a thair gwaith yn fwy y pen na'r gorllewin a'r canolbarth. Mae'r anghyfartaledd yna yn gwbl warthus. Mae'n hollol groes, a dweud y gwir, i'r strategaeth honedig, 'Ffyniant i Bawb'. Efallai y dylid ailenwi'r strategaeth hwnnw yng ngwyneb y wybodaeth yma. A ydy'r Llywodraeth yn fodlon ymrwymo i sicrhau bod llythyr cylch gorchwyl comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau buddsoddiad mwy gwastad gan Lywodraeth Cymru ar draws Cymru?
Lywydd, nid daearyddiaeth yw’r egwyddor sy’n pennu ein rhaglen gyfalaf. Yr egwyddor sy’n pennu yw'r gwerth gorau am y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud, ac mae buddsoddiadau gwerth gorau yn digwydd ledled Cymru ac mae'r cyfrannau o wariant cyfalaf mewn gwahanol rannau o Gymru yn newid dros amser, wrth i brosiectau gwahanol ddod i'r amlwg. Nid oes un rhan o Gymru yn cael ei gadael allan o'n rhaglen gyfalaf a byddwn yn parhau i fuddsoddi ar draws Cymru, ond nid ar sail ddaearyddol, nid ar y sail ein bod yn dweud bod yn rhaid i bawb gael yr un lefel o fuddsoddiad, oherwydd mae gan wahanol rannau o Gymru wahanol fathau o anghenion, a bydd y rhain yn newid dros amser, ac mae'n llawer pwysicach ein bod yn cydlynu gwariant cyfalaf yn ôl yr angen a gwerth gorau na'n bod yn glynu’n syml at ddaearyddiaeth.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf Ysgrifennydd y Cabinet at y cwestiynau a ofynnwyd eisoes gan yr Aelod blaenorol. Dyna'r broblem gyda dod yn ail, ynte, ond dyna ni—nid yn wleidyddol, hynny yw, yn y drefn heddiw rwy’n ei feddwl.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae caffael yn amlwg ar wefusau'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn sgil cwymp Carillion, ac fe gafodd hwnnw effaith amlwg ar brosiectau a gwasanaethau ledled y DU, ond hefyd, i raddau llai, yng Nghymru. Mae Capita, y cwmni contractio gwaith allanol, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cael anhawster yn ariannol. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o ymwneud Llywodraeth Cymru â Capita mewn perthynas â graddau'r contractau gyda hwy a'ch asesiad o'r risg a achosir gan y cytundebau hynny?
Lywydd, rydym yn gweithio'n ofalus gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â Carillion a Capita. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad ydynt yn sefydlu tîm gyda Capita yn y ffordd a wnaethant gyda Carillion, ond eu bod yn parhau i fonitro Capita yn agos iawn, ac mae Swyddfa'r Cabinet yn ymgysylltu'n agos â Capita i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol y mae'r cwmni yn eu hwynebu. Rydym wedi llunio trosolwg o wariant a'r gwasanaethau a ddarperir gan Capita yng Nghymru, ac rydym wedi rhannu hynny gyda Swyddfa'r Cabinet fel bod modd i’r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud yn y maes gael eu llywio'n llawn o gwmpas anghenion Cymru.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gofyn nifer o gwestiynau ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru—rhai i chi, rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi pum contract gyda Capita ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru. Deallaf hefyd nad oes unrhyw drafodaethau sylweddol wedi bod gyda Capita o fewn y chwe mis diwethaf. A ydych yn credu y byddai'n ddoeth i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ychydig mwy gyda Capita ar hyn o bryd? Rwy'n derbyn bod dimensiwn DU i hyn hefyd—ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y risg yn cael ei lliniaru gymaint â phosibl.
Gallaf sicrhau'r Aelod fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud yn siŵr fod unrhyw gysylltiad yng Nghymru â Capita yn cael ei ddeall yn llawn, a lle byddai trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmni yn ddefnyddiol i reoli'r sefyllfa y maent yn ei hwynebu, byddem yn sicr yn agored i hynny. Nid yw Capita yn yr un sefyllfa â Carillion, cyn belled ag y gwyddom, ac mae'n bwysig ein bod yn cynnal ein perthynas â hwy mewn ffordd nad yw'n arwain at ofnau diangen heb ffeithiau’n sail iddynt.
Rwy'n gwerthfawrogi ateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r cwestiwn hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn, rwy'n ymwybodol fod yna wahaniaethau mawr, ond eto'i gyd rwy'n credu bod angen craffu ar y meysydd hynny. Mae Adam Price eisoes wedi crybwyll beirniadaeth Swyddfa Archwilio Cymru o weithdrefnau caffael diweddar. Mae eu cylch gwaith yma, yn amlwg, ond mae diffygion wedi bod gyda gweithdrefnau caffael ar draws y DU yn ogystal. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am yr adolygiad parhaus mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Adam. A allech roi mwy o fanylion i ni am yr adolygiad hwnnw, cyrhaeddiad yr adolygiad hwnnw, pa bryd rydych yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyflwyno, a newidiadau posibl y gellid eu gwneud, fel y gallwn sicrhau bod gweithdrefnau caffael Llywodraeth Cymru mor gadarn â phosibl?
Wel, Lywydd, mae'r adolygiad yn mynd rhagddo ers peth amser. Rwy’n disgwyl iddo ddod i ben yn ystod y flwyddyn galendr hon, yn ogystal â'r gwaith a wneir ar yr adolygiad o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei oruchwylio gan grŵp rhanddeiliaid, a fydd yn cael effaith sylweddol arno, a bydd y grŵp rhanddeiliaid hwnnw'n cynnwys y sefydliadau sy’n brif ddefnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Ond rwyf hefyd yn disgwyl y bydd yr adolygiad yn ystyried adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar gaffael cyhoeddus a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac rwyf hefyd yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gaffael yng Nghymru. Ac unwaith eto, rwy'n disgwyl y bydd casgliadau'r ymchwiliad hwnnw yn rhan o'r deunydd y bydd yr adolygiad yn ei ystyried wrth ddod i'w gasgliadau.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Rwy'n llawn gymeradwyo'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach wrth feirniadu Llywodraeth y DU a'r dryswch sydd i’w weld yn y Cabinet mewn perthynas â'i bolisi Brexit, yn bennaf oherwydd gweithgareddau rhai a ymgyrchodd yn gadarn dros aros yn yr UE fel Canghellor y Trysorlys sy'n ymddangos fel pe bai’n ceisio tanseilio'r broses gyfan yn rheolaidd. Ond wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru helpu i gael y canlyniad gorau posibl o'r trafodaethau Brexit hyn pe bai'n barod i gydnabod mai'r ffordd orau o osgoi 'dim bargen' yw drwy baratoi ar ei gyfer, a'i gwneud yn glir ein bod yn gallu ymdopi â'r canlyniadau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o adroddiad y pwyllgor materion allanol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n gwneud nifer o argymhellion. Yn benodol, dywedodd fod ar Gymru angen arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru o ran sut y dylent fod yn paratoi ar gyfer Brexit a bod sectorau a sefydliadau yn troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad, ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu dechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE. Mae hyn wedi cael ei fynegi yn y ffordd fwyaf amhleidiol sy’n bosibl. Ac rwy'n ceisio gwneud hynny fy hun yn y cwestiwn hwn—annog a phwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu safbwynt optimistaidd ynghylch y canlyniad y tu hwnt i Brexit. Hyd yn oed os na cheir bargen, bydd cyfleoedd yno, yn ogystal â heriau, a dylem roi sylw i'r rheini yn hytrach na rhygnu am y pethau negyddol byth a beunydd.
Wel, Lywydd, hyd yn oed wrth geisio ymateb i gywair y cwestiwn hwnnw, ni allaf osgoi dweud wrth yr Aelod fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Bydd canlyniad 'dim bargen' yn dilyn Brexit yn drychinebus i Gymru, ac nid oes unrhyw baratoi ar gyfer 'dim bargen'. Ac un o'r rhesymau pam fy mod bob amser yn dweud hynny yw oherwydd ei bod hi’n bwysig iawn ymwrthod â'r syniad bod 'dim bargen' yn ddim ond un digwyddiad arall y gallwch baratoi ar ei gyfer. Nid yw normaleiddio 'dim bargen' o fudd i neb yma yng Nghymru. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer yr holl ganlyniadau gwahanol posibl a all ddeillio o negodi. Bob tro rwy'n siarad â Gweinidogion y DU, maent yn pwysleisio’n bendant nad 'dim bargen' yw’r hyn y maent yn ei geisio, ac rwy'n eu cefnogi'n llawn yn yr uchelgais hwnnw.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Llywodraeth Prydain yn gwneud ei gorau i sicrhau bargen gyda'r UE. Yr unig bobl sy'n chwarae gêm galed yn hyn i gyd yw'r Comisiwn Ewropeaidd eu hunain. Mae hyn yn rhan hanfodol o strategaeth negodi Monsieur Barnier, a byddai Michel Barnier wrth ei fodd yn clywed yr ymateb y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei roi i mi. Dyna'n union y mae eisiau i bobl y wlad hon ei ddweud—i ddangos, felly, y bydd y pwysau ar wneud yr hyn y mae'r UE ei eisiau yn hytrach na'r hyn y mae Llywodraeth Prydain ei eisiau. Wrth gwrs ein bod eisiau bargen masnach rydd gyda'r UE; byddem yn wallgof pe na byddem eisiau hynny ac mae pawb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin yn pwyso am hynny. Ond ni fydd dweud 'Beth y mae'r UE ei eisiau o hyn' o hyd yn helpu ein safbwynt negodi. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, ar ran Llywodraeth Cymru, nid yn unig i ganolbwyntio ar y pethau negyddol a fydd yn digwydd os na fydd unrhyw fargen, oherwydd os na fydd bargen, ni fydd hynny o ganlyniad i ymdrechion Llywodraeth Prydain, bydd hynny oherwydd bod yr UE wedi rhoi ei flaenoriaethau gwleidyddol ei hun o flaen synnwyr cyffredin economaidd.
Lywydd, rwyf wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau rwyf wedi clywed yr Aelod yn rhoi sicrwydd i ni yn y Siambr y byddai'n hawdd cael bargen oherwydd y byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen a phawb arall yn yr Undeb Ewropeaidd mor daer i gael bargen fel y byddai'n bosibl cael un heb lawer o ymdrech o gwbl. Rwy'n ei gweld yn anodd iawn cysoni ei safbwyntiau yn y cyswllt hwnnw â'i awgrym y prynhawn yma fod y Comisiwn yn benderfynol, rywsut, o beidio â tharo bargen. Ni fyddwn yn cael bargen os ydym yn ystyried y Comisiwn a'r Undeb Ewropeaidd fel gelynion yn hyn oll. Mae gennym ddiddordeb ar y cyd mewn cael bargen, a chael y fargen orau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi beth y credwn fyddai'r fargen orau. Ac nid yw rhagdybio’n syml ein bod yn brwydro yn erbyn ein gilydd, lle bydd canlyniad da i un yn ganlyniad gwael i’r llall, yn ffordd o sicrhau’r manteision gorau i Gymru yn fy marn i.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod nad wyf yn gweld hyn fel gêm swm sero lle mae Prydain yn elwa ar draul yr UE. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod bargen masnach rydd er budd y ddwy ochr, ac mewn gwirionedd, yn llawer mwy o fudd i'r UE, ar un ystyr, nag i’r DU oherwydd bod gennym ddiffyg masnach anferth o tua £80 biliwn y flwyddyn gyda'r UE. Ac o ran gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen, mae gennym ddiffyg masnach o €36 biliwn gyda'r Almaen. Wrth gwrs, mae'n sicr er budd cynhyrchwyr ceir yr Almaen ein bod yn taro bargen gyda hwy, oherwydd rydym yn prynu un o bob saith o'r holl geir a gynhyrchir yn yr Almaen. Ond os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn mynnu dweud 'O, wel, mae angen i ni ildio popeth y mae'r UE ei eisiau gennym er mwyn cael bargen masnach rydd', dyna'r ffordd orau i sicrhau nad ydym yn cael un.
Wel, rwy'n gwrthod iaith ildio popeth a'r dull y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi'r math o fargen rydym yn credu ei bod er budd gorau pobl a busnesau Cymru: bargen lle mae gennym fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, lle byddwn yn parhau mewn undeb dollau, lle bydd busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a sefydliadau ymchwil Cymreig yn gallu parhau i recriwtio pobl rydym wedi bod yn ddigon ffodus i'w denu i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru, lle bydd dinasyddion Cymru yn parhau i fwynhau'r amddiffyniadau y maent wedi'u cael drwy'r Undeb Ewropeaidd, fel dinasyddion, fel gweithwyr, fel defnyddwyr, ac ym maes hawliau dynol hefyd. Mae yna farn gadarnhaol ynghylch y math o fargen rydym ei hangen gyda'r Undeb Ewropeaidd, un y credwn y byddai'n caniatáu i fusnesau Cymru a swyddi Cymru barhau i ffynnu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai dyna'r math o iaith sydd o fwyaf o gymorth i ni wrth geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU ac ar y Comisiwn wrth i’r negodiadau tra phwysig hyn gael eu cynnal.