Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 14 Chwefror 2018.
Lywydd, nid daearyddiaeth yw’r egwyddor sy’n pennu ein rhaglen gyfalaf. Yr egwyddor sy’n pennu yw'r gwerth gorau am y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud, ac mae buddsoddiadau gwerth gorau yn digwydd ledled Cymru ac mae'r cyfrannau o wariant cyfalaf mewn gwahanol rannau o Gymru yn newid dros amser, wrth i brosiectau gwahanol ddod i'r amlwg. Nid oes un rhan o Gymru yn cael ei gadael allan o'n rhaglen gyfalaf a byddwn yn parhau i fuddsoddi ar draws Cymru, ond nid ar sail ddaearyddol, nid ar y sail ein bod yn dweud bod yn rhaid i bawb gael yr un lefel o fuddsoddiad, oherwydd mae gan wahanol rannau o Gymru wahanol fathau o anghenion, a bydd y rhain yn newid dros amser, ac mae'n llawer pwysicach ein bod yn cydlynu gwariant cyfalaf yn ôl yr angen a gwerth gorau na'n bod yn glynu’n syml at ddaearyddiaeth.