Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n gwerthfawrogi ateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r cwestiwn hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn, rwy'n ymwybodol fod yna wahaniaethau mawr, ond eto'i gyd rwy'n credu bod angen craffu ar y meysydd hynny. Mae Adam Price eisoes wedi crybwyll beirniadaeth Swyddfa Archwilio Cymru o weithdrefnau caffael diweddar. Mae eu cylch gwaith yma, yn amlwg, ond mae diffygion wedi bod gyda gweithdrefnau caffael ar draws y DU yn ogystal. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am yr adolygiad parhaus mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Adam. A allech roi mwy o fanylion i ni am yr adolygiad hwnnw, cyrhaeddiad yr adolygiad hwnnw, pa bryd rydych yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyflwyno, a newidiadau posibl y gellid eu gwneud, fel y gallwn sicrhau bod gweithdrefnau caffael Llywodraeth Cymru mor gadarn â phosibl?