Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers ei chreu, mae swyddfeydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, ac mae rhywfaint o bryder wedi bod yn y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd yn groes i'w hymrwymiad i leoli staff Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd. Yn 2015, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Parhaol ar y pryd, Syr Derek Jones, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bresenoldeb hirdymor yn y Drenewydd, y tu hwnt i Mawrth 2020. Nawr, mae rhai datblygiadau wedi bod ers hynny, ac mae'r adeilad a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru ar y pryd wedi'i werthu. A allwch roi sicrwydd i mi fod hyn yn wir o hyd?