Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid i ni, mewn cyfnod lle mae cyllidebau o dan bwysau sylweddol iawn, adolygu ystâd Llywodraeth Cymru yn barhaus. Roedd gennym 75 eiddo yn 2010, ac mae gennym 28 eiddo bellach, ac mae hynny wedi rhyddhau arbedion sylweddol, sy'n ein galluogi i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig, fodd bynnag, i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb gwasgaredig, rhyng-gysylltiedig a hygyrch ledled Cymru.