Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rydym yn datblygu gweithrediad manwl cronfa bontio’r UE mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill, i'w helpu i baratoi ar gyfer Brexit. Roedd trafodaethau ynghylch telerau ac amodau posibl y gronfa yn eitem bwysig ar yr agenda yr wythnos diwethaf yng nghyfarfod y grŵp cynghori ar Ewrop.