2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro telerau ac amodau cronfa pontio'r UE o £50 miliwn? OAQ51762
Rydym yn datblygu gweithrediad manwl cronfa bontio’r UE mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill, i'w helpu i baratoi ar gyfer Brexit. Roedd trafodaethau ynghylch telerau ac amodau posibl y gronfa yn eitem bwysig ar yr agenda yr wythnos diwethaf yng nghyfarfod y grŵp cynghori ar Ewrop.
Wel, rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol Cymru, nid yn unig gyda chyhoeddi cronfa bontio yr UE sy’n werth £50 miliwn, ond hefyd y buddsoddiad rhanbarthol a'r cynlluniau materion masnach. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sy'n darparu gwaith craffu adeiladol ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod trafodaethau Brexit. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos ddiwethaf, gofynnais, yn rhinwedd fy swydd fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, am gael gweld y ddogfen, yr honnir iddi gael ei datgelu'n answyddogol, ar effaith Brexit ar yr economi. Gofynnwyd i ni fynd i adeilad Llywodraeth y DU ar wahân, nid ar ystâd y Cynulliad, a gwneud apwyntiad o ddetholiad o slotiau amser cyfyngedig a phenodol iawn er mwyn mynd i ystafell ddarllen wedi'i gwarchod. Deallaf fod gan y pwyllgorau Brexit yn y Senedd fynediad llawn at yr adroddiad hwn. Ni all hyn fod yn iawn. Nid yw estyniadau y tu hwnt i'r wythnos hon yn dderbyniol nac yn gyfleus. Rwy'n gwneud amser ar gyfer hyn yfory, ac mae’n mynd i fod yn eithriadol o anghyfleus. Dylid gwneud yr adroddiad yn gyhoeddus, nid yn unig ar ein cyfer ni, ond ar gyfer ein hetholwyr a'n rhanddeiliaid.
Ond yr hyn sy'n fwy pwysig yw'r hyn a ddywed yr adroddiad, ac rwy'n deall bod y dadansoddiad swyddogol hwn gan Lywodraeth y DU yn dangos y byddai Cymru'n dioddef gostyngiad o 9.5 y cant i gynnyrch domestig gros pe bai'r DU yn gadael yr UE heb fargen. At hynny, mae'r astudiaeth hefyd yn dangos y byddai Cymru yn dioddef gostyngiad o 5.5 y cant yn y cynnyrch domestig gros hyd yn oed pe bai'r DU yn gadael yr UE gyda bargen masnach rydd, ac y byddai gostyngiad o 1.5 y cant pe bai'r wlad yn aros yn y farchnad sengl. Deellir y bydd y colledion disgwyliedig yn para am gyfnod o 15 mlynedd. Felly, o ystyried y senarios twf isel hyn, yn ogystal â'r ansicrwydd cyfredol mewn perthynas â thelerau'r cyfnod pontio, a yw hyn wedi effeithio ar eich cynlluniau a'ch trefniadau ar gyfer cronfa bontio yr UE Llywodraeth Cymru?
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Cawsom gwestiynau cynharach y prynhawn yma, Lywydd, am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn trefnu ei hun mewn perthynas â mater Brexit. Byddai'r stori druenus am fynediad i’r Aelodau at adroddiadau yr honnir iddynt gael eu datgelu'n answyddogol wedi cywilyddio Clochemerle, heb sôn am Lywodraeth y DU. Rhannaf farn Anna Soubry, fy hun. [Torri ar draws.] Rhannaf farn Anna Soubry—yr Aelod Seneddol Ceidwadol a ddywedodd fod perfformiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn yn chwerthinllyd. Mae'n trin y Senedd hon a'r Cynulliad hwn, a Senedd yr Alban, fel pe baem yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rydym yn cael ein hebrwng i ystafelloedd cloëdig i edrych ar ddogfennau nad ydym yn cael gwneud nodiadau arnynt hyd yn oed, er bod aelodau o'r cyhoedd yn eu darllen ar y rhyngrwyd. Mae'n gwbl chwerthinllyd ac mae'n amharchus, ac nid yw'n ychwanegu at yr hyder fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hyn.
Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am yr anghwrteisi o fod wedi methu cwestiwn yn y sesiwn flaenorol?
Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod gyda David Melding a Jane Hutt yn darllen yr adroddiadau hyn, ond efallai y gall ddweud wrthym hefyd a fydd yr adroddiad ar ddatgelu answyddogol neu fel arall ar yr ad-drefnu yn cael ei gyhoeddi, o ystyried ei ymrwymiad newydd i fod yn agored a thryloyw mewn bywyd cyhoeddus. A gaf fi hefyd ofyn iddo, pan fydd yn ystyried yr adroddiadau hyn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn ystyried y ffaith mai'r daroganwyr sydd wedi ysgrifennu'r amcangyfrifon eithriadol o fawr hyn o golledion allbwn posibl, yw'r un rhai at ei gilydd a ddywedodd y byddai dirwasgiad ar unwaith pe baem yn pleidleisio i adael ar 23 Mehefin, ac y byddai 0.5 miliwn o swyddi’n cael eu colli ledled y DU, er mai’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod 0.5 miliwn o swyddi newydd wedi cael eu creu?
Wel, rwyf am wneud dau bwynt, Lywydd. Y cyntaf yw bod y bobl sydd wedi gwneud yr amcangyfrifon hyn yn bobl a gafodd eu dewis gan Llywodraeth y DU i wneud yr amcangyfrifon hyn. Nid grŵp o bobl ydynt sydd wedi dewis eu hunain at y diben hwn. Mae eich Llywodraeth wedi penderfynu mai hwy yw'r bobl orau i roi'r cyngor hwn iddynt. Wrth gwrs, pan fyddant yn rhoi cyngor nad ydych yn ei hoffi, rydych yn credu mai'r peth hawsaf i'w wneud yw lladd ar y bobl sy'n ei ddarparu.
Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud i'r Aelod yw hwn: mae'r polisi masnach a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o'r effaith y byddai gwahanol ffyrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar economi Cymru, ac mae cyd-daro rhyfeddol rhwng ffigurau'r bobl sydd wedi ein cynghori ar gyfer cynhyrchu'r adroddiad hwnnw a ffigurau'r bobl a oedd yn cynghori Llywodraeth y DU. Nid wyf yn credu y gallwn ddiystyru'r ffigurau am nad ydym yn eu hoffi ac am nad ydynt yn cyd-fynd â'n safbwynt ni.