Treth Gwarediadau Tirlenwi

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:55, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Daethpwyd i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei gweithredu ar 1 Ebrill eleni. Mae nifer o safleoedd tirlenwi eisoes wedi gwneud cais i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'r adborth ar y broses gofrestru a'r canllawiau a gynhyrchwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gadarnhaol.