2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r dreth gwarediadau tirlenwi? OAQ51740
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Daethpwyd i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei gweithredu ar 1 Ebrill eleni. Mae nifer o safleoedd tirlenwi eisoes wedi gwneud cais i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'r adborth ar y broses gofrestru a'r canllawiau a gynhyrchwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gadarnhaol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ymddengys bod cyfle gwirioneddol yma i ddefnyddio hyn fel cynllun da iawn a fydd, gobeithio, yn gwrthbwyso i ryw raddau rhai o'r effeithiau negyddol posibl ar gymunedau sy'n byw o fewn pum milltir i safleoedd tirlenwi. Ond nid yw'n ymddangos bod llawer iawn o wybodaeth ar gael ar wahân i'r ffaith mai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn ei weinyddu. Felly, a ydych yn bwriadu, neu a yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn bwriadu, rhoi gwybod i gymunedau a sefydliadau sut y gallant, yn gyntaf oll, ddeall y cynllun ac yna gwneud cais am unrhyw gymorth y gall y cymunedau hynny elwa arno, yn unol â'r dreth dirlenwi hon?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cynllun cymunedau yn y dreth gwarediadau tirlenwi? Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru, ac roedd gan aelodau'r Pwyllgor Cyllid ddiddordeb arbennig ynddo. Y ffaith bod gennym barth pum milltir sydd bellach yn cynnwys gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn ogystal â safleoedd tirlenwi oedd un o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun. Roedd ein cyd-Aelod, Mike Hedges, yn arbennig o ddylanwadol yn dadlau o blaid hynny, a gwn y bydd Joyce Watson yn arbennig o falch o wybod bod hynny'n golygu bod 16 o orsafoedd trosglwyddo gwastraff yn ei rhanbarth hi bellach, lle bydd cymunedau nad oedd yn gallu elwa o'r cynllun o gwbl yn flaenorol yn gallu elwa ohono bellach. Dewiswyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel y corff a fydd yn goruchwylio'r cynllun. Rydym yn disgwyl y bydd y ceisiadau cyntaf yn cyrraedd yn hwyr yn y gwanwyn eleni, a bydd cyfnod rhwng yn awr a hynny pan fyddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd o’r newydd i'r cynllun ac yn tynnu sylw grwpiau, a fyddai, o bosibl, yn dymuno gwneud cais o'r fath, at y tri diben hanfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa mor debygol yw hi y bydd y cyfraddau’n amrywio rhwng Cymru a Lloegr mewn gwirionedd? Neu a ydych yn teimlo y bydd problem y ffin bob amser yn anorchfygol o ran cael polisi mwy manwl a phenodol yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion ein hunain?
Wel, mae David Melding yn hollol gywir fod y ffin yn fater arwyddocaol iawn mewn perthynas â'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae twristiaeth wastraff, rhywbeth y daeth rhai ohonom yn gyfarwydd ag ef yn ystod taith y Bil, yn risg wirioneddol, a dyna pam rwyf wedi dweud, wrth bennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y dreth hon, na fyddem yn amrywio oddi wrth y cyfraddau a'r bandiau dros y ffin am y ddwy flynedd gyntaf o leiaf. Rydym eisoes wedi amrywio, fodd bynnag, drwy bennu band 150 y cant ar gyfer gwarediadau heb awdurdod, ac nid yw hwnnw'n bodoli dros y ffin. Felly, mae rhywfaint o wahaniaethu yma eisoes ac rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn. Byddwn yn edrych i weld sut y mae'r dreth yn gweithredu yn ystod ei dwy flynedd gyntaf oherwydd bydd gennym yn awr, am y tro cyntaf, dystiolaeth fanwl am y ffordd y mae gwarediadau tirlenwi'n digwydd yng Nghymru. Wedyn, bydd cyfle i weld a oes modd cael rhywfaint o amrywio pwrpasol. Rwyf wedi dweud ers y cychwyn, ac rwyf am ei ddweud eto: nid wyf yn credu mewn amrywio er mwyn amrywio. Os yw'n addas i ni ac yn gwneud pethau mewn ffordd well i ni yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny, ond byddwn yn aros i gael y dystiolaeth cyn gwneud penderfyniad o'r fath.