Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 14 Chwefror 2018.
Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am yr anghwrteisi o fod wedi methu cwestiwn yn y sesiwn flaenorol?
Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod gyda David Melding a Jane Hutt yn darllen yr adroddiadau hyn, ond efallai y gall ddweud wrthym hefyd a fydd yr adroddiad ar ddatgelu answyddogol neu fel arall ar yr ad-drefnu yn cael ei gyhoeddi, o ystyried ei ymrwymiad newydd i fod yn agored a thryloyw mewn bywyd cyhoeddus. A gaf fi hefyd ofyn iddo, pan fydd yn ystyried yr adroddiadau hyn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn ystyried y ffaith mai'r daroganwyr sydd wedi ysgrifennu'r amcangyfrifon eithriadol o fawr hyn o golledion allbwn posibl, yw'r un rhai at ei gilydd a ddywedodd y byddai dirwasgiad ar unwaith pe baem yn pleidleisio i adael ar 23 Mehefin, ac y byddai 0.5 miliwn o swyddi’n cael eu colli ledled y DU, er mai’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod 0.5 miliwn o swyddi newydd wedi cael eu creu?