Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'r Aelod yn gwbl iawn i barhau i ddadlau achos Caernarfon mewn perthynas â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yno. Gallaf roi sicrwydd iddi nad yw'r newidiadau presennol o ran presenoldeb Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn gyfystyr â symud o Gaernarfon. Mae'n golygu symud i eiddo newydd arall yn y dref yn noc Caernarfon, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau â'i hymrwymiad i'w phresenoldeb yn y dref.