Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon ar werth, efo’r staff yn symud oddi yno cyn hir i swyddfeydd fydd ar les. Mae Caernarfon wedi gweld colli llawer mwy o staff Llywodraeth Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol dros y blynyddoedd. Beth nad ydw i’n ei ddeall ydy sut mae lleihau staff mewn ardal fel Caernarfon yn cyfrannu at nod cynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth, sef model o ddatblygu economaidd, ac rydw i’n dyfynnu, 'sy’n canolbwyntio ar ranbarthau er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol o ran cyfoeth a chyfleoedd ledled Cymru.' Yr wythnos yma eto, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi tystiolaeth bod rhanbarth y de-ddwyrain yn cael tair gwaith cymaint o fuddsoddiad cyfalaf y pen gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â rhai rhanbarthau eraill—tystiolaeth yn seiliedig ar wybodaeth gan eich Llywodraeth chi.