Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod nad wyf yn gweld hyn fel gêm swm sero lle mae Prydain yn elwa ar draul yr UE. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod bargen masnach rydd er budd y ddwy ochr, ac mewn gwirionedd, yn llawer mwy o fudd i'r UE, ar un ystyr, nag i’r DU oherwydd bod gennym ddiffyg masnach anferth o tua £80 biliwn y flwyddyn gyda'r UE. Ac o ran gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen, mae gennym ddiffyg masnach o €36 biliwn gyda'r Almaen. Wrth gwrs, mae'n sicr er budd cynhyrchwyr ceir yr Almaen ein bod yn taro bargen gyda hwy, oherwydd rydym yn prynu un o bob saith o'r holl geir a gynhyrchir yn yr Almaen. Ond os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn mynnu dweud 'O, wel, mae angen i ni ildio popeth y mae'r UE ei eisiau gennym er mwyn cael bargen masnach rydd', dyna'r ffordd orau i sicrhau nad ydym yn cael un.