Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 14 Chwefror 2018.
Wel, Lywydd, yn bersonol, nid wyf yn synnu nad oes cyfeiriad at ffordd liniaru'r M4 yn nogfen prifddinas-ranbarth Caerdydd, oherwydd mae ariannu'r metro yn elfen bwysig a phenodol o'r fargen honno mewn gwirionedd, ac mae'r arian sy'n sail iddi eisoes wedi cael ei neilltuo ar gyfer datblygu'r metro.
Gadewch i mi wneud y safbwynt yn glir o ran benthyca cyfalaf. Cafodd Llywodraeth Cymru gynnig mynediad cynnar at fenthyca, gyda'r benthyciad hwnnw’n amodol ar sicrhau ei fod ar gael ar gyfer yr M4. Fel y digwyddodd, ac fel yr eglurais wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma, nid wyf wedi bod angen defnyddio benthyciad ar gyfer costau cyfalaf yr M4. Yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi gallu talu'r costau drwy ddefnyddio cyfalaf confensiynol. Cafodd hynny i gyd ei oddiweddyd gan y fframwaith cyllidol, a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2016. Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu benthyg £125 miliwn yn 2018-19, a bydd hwnnw'n codi i £150 miliwn ar ôl hynny, hyd at gyfanswm o £1 biliwn. Ond nid yw'r benthyciad hwnnw wedi'i neilltuo ar gyfer yr M4. Bydd angen i Ysgrifenyddion Cyllid wneud penderfyniad bryd hynny ynghylch y cydbwysedd i’w daro rhwng cyfalaf confensiynol a benthyca ar gyfer yr M4, os yw'n digwydd, ac mae hynny'n ddibynnol, fel y dywedais, ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol.