Ffordd Liniaru'r M4

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:02, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cwmni dadansoddi traffig INRIX yn amcangyfrif bod y tagfeydd traffig ar ein ffyrdd y llynedd wedi costio bron i £278 miliwn i economi Cymru, sy'n ffigur trawiadol. Mae tagfeydd yn costio £134 miliwn i Gaerdydd, £62 miliwn i Abertawe, a £44 miliwn i Gasnewydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gost hon i economi Cymru yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar ddyfodol ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn ardal Casnewydd? Diolch.